Latino sine flexione

Iaith artiffisial yw Latino sine flexione (Lladin heb ffurfdroadau) a ddyfeisiwyd gan y mathemategwr Eidaleg Giuseppe Peano (1858 - 1932) yn 1903. Mae'n fersiwn syml o Ladin sy'n cadw ei geirfa ond yn colli ei ffurfdroadau cymhleth. Fe'i chyhoeddwyd yn y newyddiadur Revista di Matematica mewn erthygl o'r enw De Latino Sine Flexione, Lingua Auxiliare Internationale, a esboniodd y rheswm dros ei chread. Dadlodd yr erthygl bod ieithoedd artiffisial eraill yn ddiangen, gan fod Lladin wedi'i sefydlu fel iaith genedlaethol y byd yn barod. Fe ysgrifennwyd yr erthygl yn wreiddiol yn Lladin Clasurol, ond fe gollodd eu ffurfdroadau yn raddol.

Er cafwyd gwared o'r ffurfdroadau yn enwau ac ansoddeiriau, mae cenedl enwau yn bodoli gyda'r opsiwn am derfyniadau benywaidd yn enwau yn ymwneud â swyddi. Fe gymerwyd holl ffurfiau'r enwau o'r cyflwr abladol. Nid yw'r rhif lluosog yn hanfodol oherwydd fe ellir ei ddarllen o'r cyd-destun yn aml. Mae gan ferfau ychydig bach o ffurfdroadau ond fe ddangosir person a modd drwy eirynnau.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy